Mae tri o bobl wedi marw mewn tân yn Athens heddiw yn ystod gwrthdaro ynglŷn â thoriadau gwario’r llywodraeth.

Mae tua 100,000 o bobl wedi bod yn protestio yn y stryd yn dilyn streiciau dros doriadau a chynnydd mewn trethi.

Roedd cannoedd o bobl yn rhan o’r gwrthdaro a bu protestwyr yn taflu bomiau petrol at yr heddlu ac at adeiladau. Roedd o leiaf dau adeilad ar dân.

Trafnidiaeth ar stop

Mae awyrennau, llongau a threnau ar stop ar ôl i weithwyr trafnidiaeth ymuno â gweithwyr sector cyhoeddus a ddechreuodd ar eu streic 48 awr ddoe.

Mae llywodraeth Gwlad Groeg yn ceisio gorfodi toriadau gwario a chodiadau trethi er mwyn ceisio achub yr economi.

Maen nhw’n dweud fod pecyn llym o fesurau ariannol yn angenrheidiol er mwyn sicrhau benthyciad o £95 biliwn gan Gronfa Ariannol Ryngwladol yr IMF a 15 o wledydd eraill Ewrop.