Mae’r heddlu yn Sir Benfro wedi arestio chwech o bobl sy’n cael eu hamau o werthu cyffuriau yn yr ardal.
Mae nhw hefyd wedi darganfod gwerth £8,200 o gyffuriau fel rhan o ymgyrch ‘Poker’ sy’n ceisio mynd i’r afael â gwerthu heroin yn y sir.
Ers mis Ionawr, mae 20 o bobl wedi’u harestio ar amheuaeth o ddelio mewn cyffuriau a thros £18,000 o gyffuriau wedi’u tynnu oddi ar y stryd.
Fe gafodd un dyn ei arestio wrth iddo ddod oddi ar drên yng ngorsaf Hwlffordd ac fe gafodd pedwar person arall eu harestio yn y dre.
Mae’r chwech yn cael eu holi yng Ngorsaf Heddlu Hwlffordd ar hyn o bryd.
“Mae hyn yn rhan o ymdrech barhaus gan Heddlu Dyfed Powys i geisio cael gwared o gyffuriau o’n cymunedau,” meddai’r Uwch-Arolygydd Reg Bevan.