Ni ddylid cymryd honiad Taliban Pakistan mai nhw oedd yn gyfrifol am ffrwydrad Times Square yn Efrog Newydd ormod o ddifrif, meddai llefarydd ar ran Byddin Pacistan heddiw.
Mewn neges fideo, mae’r grŵp wedi dweud mai nhw oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad – ymosodiad cyntaf y grŵp y tu allan i dde Asia.
Cwestiynau newydd
Ond fe wnaeth swyddogion yr Unol Daleithiau wrthod yr honiad yn syth. Serch hyn, mae arestio Faisal Shahzadd o Bacistan, sy’n ddinesydd yn America, wedi codi cwestiynau newydd. Mae’n honni ei fod wedi derbyn hyfforddiant yn un o ardaloedd Taliban Pacistan yn Waziristan.
Er gwaethaf hyn, mae Athar Abbas, llefarydd ar ran byddin Pakistan wedi dweud na ddylid cymryd yr honiad ormod o ddifrif. “Mae’n bosibl i unrhyw un honni unrhyw beth,” meddai.
Gwrthododd Athar Abbas â chadarnhau os oedd Faisal Shahzad, sydd wedi’i gyhuddo o’r ffrwydrad, wedi derbyn hyfforddiant ym Mhacistan.
Y cefndir
Roedd Faisal Shahzad wedi dychwelyd o Bacistan – ei wlad enedigol – ar 3 Chwefror eleni, ar ôl dweud ei fod yn mynd yno i weld ei rieni. Ond, mae’n ymddangos efallai ei fod wedi bod mewn gwersyll i hyfforddi terfysgwyr.
Cafodd ei ddal cyn iddo adael ar awyren i’r Dwyrain Canol ddydd Llun. Roedd wedi gosod petrol a nwy mewn car ger Times Square, un o rannau prysuraf Efrog Newydd.