Gyda llai nag 24 awr i fynd tan ddechrau’r pleidleisio, mae Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn taflu popeth at Geredigion. Dau o fyfyrwyr adran Gwleidyddiaeth Prifysgol Aberystwyth, Bleddyn Bowen a Bethan Foweraker, sy’n trafod gyda’r etholwyr sydd wedi’u dal yn y canol…

“Roedd mwy o ddiddordeb gen i yn y dwst folcanig…”

Roedd barn y dyn hwnnw yn crynhoi i ryw raddau sut ymateb gawson ni yng Ngheredigion wrth holi pobol leol a’r myfyrwyr ynglŷn â’r etholiad.

Bwriad ein taith o amgylch  Aberystwyth a Llandysul oedd gweld pwy oedd yn mynd i bleidleisio i bwy, a pham, yn ogystal â thrafod y dadleuon teledu sydd wedi bod ymlaen dros yr wythnosau diwethaf.

Roedd ymateb pobl Ceredigion yn amrywio. Cawsom gwpl hŷn yn cwyno eu bod nhw wedi cael digon ar bob plaid oherwydd bod pensiynau yn wael a bod yr holl broblemau ynglŷn â’r treuliau wedi eu dadrithio nhw. Ar y llaw arall, fe drafodon ni â llawer o bobl â barn gref iawn ynglŷn â naill ai Plaid neu’r Democratiaid Rhyddfrydol. Roedd llawer o bobl serch hynny wedi cael llond bol. Yn wir, fe ddywedodd un dyn y dylen ni gael gwared ar bawb!

Effaith y dadleuon teledu

Un peth a ddaeth yn amlwg oedd  bod y rhan fwyaf o bobol yn bwriadu pleidleisio dros Blaid Cymru neu’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Ngheredigion, am eu bod nhw’n teimlo y byddai pleidlais dros un o’r lleill  yn ddi-werth. Ar y cyfan, roedd y rhai a oedd yn bwriadu pleidleisio Democratiaid Rhyddfrydol yn teimlo ei bod hi’n bryd cael rhywun arall yn rheoli Prydain ar wahân i’r Ceidwadwyr a Llafur, a bod dadleuon yr arweinwyr ar y teledu wedi dangos mai Nick Clegg oedd y gorau o’r tri.

Yn gyffredinol, roedd y rhai a oedd yn bwriadu pleidleisio Plaid yn dweud eu bod nhw gwbl yn erbyn y dadleuon teledu a’u bod nhw’n amherthnasol i Gymru. Dwedodd un person nad oedd sôn am Gymru wedi bod mewn unrhyw un o’r dadleuon. Yn ogystal â hynny, roedd sawl un yn gweld chwith nad oedd Plaid wedi cael y cyfle i drafod ei pholisïau ar deledu, a denu mwy o bleidleisiau yng Ngheredigion.

Lle mae Llafur?

Wrth deithio ar hyd Ceredigion, daeth i’r amlwg fod ardaloedd gwahanol yn cefnogi pleidiau gwahanol. Mae ardaloedd y myfyrwyr yn Aberystwyth yn frith o bosteri oren a melyn, tra bod  sawl arwydd Plaid yn yr ardaloedd Cymreig a gwledig. Un o’r pethau mwyaf diddorol yn nhre Aberystwyth dros y penwythnos oedd bod gan Blaid Cymru, y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol stondin yr un er mwyn trafod gyda phobl yn y dre, ond nad oedd Llafur i’w gweld yn unman!

Yr unig beth oedd bron i bawb yn cytuno arno oedd, fel y dywedodd un dyn, bydd gan bwy bynnag sy’n ennill nos yfory dasg anodd o’i blaen!