Mae rhai o wrandawyr Radio Ceredigion yn pryderu y bydd y Gymraeg yn cael ei hesgeuluso ar ôl i gwmni newydd dderbyn y drwydded i ddarlledu.
Fe gafodd trwydded Radio Ceredigion ei throsglwyddo i Town and Country Broadcasting yn ddiweddar, ac mae Ffrindiau Radio Ceredigion yn casglu enwau ar ddeiseb sy’n galw ar OFCOM, y corff sy’n arolygu darlledu, i sicrhau lle teilwng i’r Gymraeg.
“Rydym yn pryderu fod arwyddion y bydd y gwasanaeth Cymraeg yn cael ei hesgeuluso,” meddai Cadeirydd Ffrindiau Radio Ceredigion, Geraint Davies.
“Rydym am sicrhau fod y cwmni yn cadw at dermau’r drwydded, sef bod y cynnwys yn hanner a hanner Cymraeg a Saesneg.
“Mae angen sicrhau bod y radio yn darlledu rhaglenni unigol Cymraeg a hynny yn ystod oriau brig, ac nid cael eu halltudio i oriau hwyr y nos.
“Nid wyf am weld Radio Ceredigion yn dilyn yr un patrwm a Radio Sir Gâr,” ychwanegodd Geraint Davies.
Cymraeg a Saesneg ar raglenni medd cwmni
Fe gafodd y ddeiseb ei lansio’r wythnos diwethaf ac yn ôl Geraint Davies mae tua 500 o bobl wedi’i arwyddo yn barod. Dywedodd ei fod yn disgwyl i hynny ddyblu i tua 1,000 erbyn y penwythnos.
Bydd y ddeiseb yn cael ei chyflwyno i OFCOM a Town and Country Broadcasting yr wythnos nesaf.
“Mae’ na gyfrifoldeb ar OFCOM i sicrhau bod y cwmni yn cadw ar dermau’r drwydded,” meddai Geraint Davies.
Mewn datganiad i Golwg 360 dywedodd y cwmni darlledu bod nhw’n bwriadu adeiladu gwasanaeth radio lleol o safon i Geredigion.
“Fe fydd ‘na raglenni addysgiadol gyda cherddoriaeth wych a newyddion y sir yn y Gymraeg a’r Saesneg,” meddai Rheolwr Gyfarwyddwr y Cwmni, Martin Mumford.
Ond nid oedd y cwmni yn fodlon cyhoeddi’r union fanylion ar hyn o bryd.
Dywed Ffrindiau Radio Ceredigion eu bod wedi gofyn sawl gwaith i Town and Country Broadcasting am gyfarfod i drafod nifer o faterion gan gynnwys y defnydd o wirfoddolwyr ar yr orsaf.