Mae un o feirniaid rhaglen dalent ‘Britain’s Got Talent’ wedi dweud ei bod yn “annhebygol” y bydd y sioe yn cynhyrchu Susan Boyle arall am ddegawd.

Mae’r gantores o’r Alban wedi “newid natur y rhaglen” meddai Amanda Holden.

Fe ddaeth clyweliad Susan Boyle yn ffenomenon rhyngwladol y llynedd ac ers hynny, mae wedi llwyddo yn rhyfeddol yn yr Unol Daleithiau.

Chwilio am seren fyd-eang

Mae’r actores a’r cyflwynydd teledu Amanda Holden, 39 wedi dweud wrth gylchgrawn Housekeeping fod Susan Boyle a’i hadnabyddir hefyd fel SuBo wedi “newid natur y sioe.”

“Roedd cyfres y flwyddyn ddiwethaf yn eiconig – dydyn ni ddim yn mynd i ffeindio Susan Boyle arall mewn 10 mlynedd,” meddai.

“Doedd gennym ni ddim ffordd o ragweld be fyddai’n digwydd. Ond, mae wedi newid natur y rhaglen . Nawr rydan ni’n chwilio am seren fyd-eang.”