Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi cael mwy o amser i dalu eu dyled i’r Adran Cyllid a Thollau ar ôl i’r achos i ddirwyn y clwb i ben gael ei ohirio – a hynny am y pedwerydd gwaith.

Yn yr Uchel Lys heddiw, fe benderfynwyd gohirio’r achos am 42 diwrnod pellach, sy’n golygu bydd yr Adar Glas ‘nôl yn y llys ar 16 Mehefin.

Mae disgwyl y bydd y clwb yn gallu talu’r swm ar ôl i’r Adar Glas ddod i gytundeb gyda dyn busnes o Falaysia a chael buddsoddiad o £6m.

Bydd Datuk Chan Tien Ghee yn berchen ar 49% o’r clwb pan fydd y buddsoddiad yn cael ei gwblhau.

Caerdydd v Caerlŷr

Bydd Cadeirydd presennol Caerdydd, Peter Ridsdale yn gadael y clwb ar ddiwedd y mis ar ôl i’r Adar Glas sicrhau’r buddsoddiad newydd.

Bydd Caerdydd yn wynebu Caerlŷr mewn dau gymal dros yr wythnos nesaf yn rownd cyn derfynol gemau ail gyfle’r Bencampwriaeth.

Pe bai Caerdydd yn mynd ‘mlaen i ennill dyrchafiad i’r Uwch Gynghrair, fe fydden nhw’n gallu dychwelyd i’r Uchel Lys mewn sefyllfa llawer cryfach.