Bydd gweithgareddau’n cael eu cynnal ym mhentref Llanymstundwy ddydd Sadwrn, 8 Mai i gofio Prif Weinidog Cymraeg cyntaf Prydain, David Lloyd George.
Bydd gweithgareddau sy’n addas i’r teulu cyfan yn cael eu cynnal yn Amgueddfa Lloyd George a Thŷ Newydd yn ystod y diwrnod. Hefyd, bydd cyfle i edrych yn ôl i’r gorffennol gyda’r storiwraig Mair Tomos Ifans ynghyd â gweithdai amrywiol yn Nhŷ Newydd yng nghwmni Twm Morys a Francesca Kay.
Amgueddfa yn 50 oed
“Bydd y diwrnod agored yn gyfle gwych i ni ddathlu hanner canrif ers agor yr amgueddfa bresennol, a hefyd i nodi 21 mlynedd ers i Dŷ Newydd agor fel canolfan llenyddol,” meddai Nest Thomas, Swyddog Amgueddfeydd ac Orielau Cyngor Gwynedd.
I nodi’r hanner canrif, bydd ŵyr David Lloyd George, D L Carey Evans, yn torri cacen pen-blwydd i ddathlu hanner can mlynedd ers agor yr amgueddfa.
Dyddiadur ewythr Lloyd George
Hefyd, bydd y teulu yn cyflwyno dyddiadur arbennig o’r 1880au a oedd yn perthyn i ewythr David Lloyd George – gŵr a gafodd ddylanwad amlwg ar flynyddoedd cynnar y Prif Weinidog yn Llanystumdwy.
“Rydym yn edrych ymlaen yn arw at gael clywed detholiadau o’r dyddiadur ac yn hynod ddiolchgar i’r teulu am eu cefnogaeth,” meddai Nest Thomas o Gyngor Gwynedd.
“Mae hwn yn ddarganfyddiad hanesyddol o bwys a fydd yn sicr o ddiddordeb i unrhyw un sy’n ymddiddori yn hanes David Lloyd George a’i wreiddiau yn Llanystumdwy.”