Mae Prif Weithredwr BP yn honni heddiw fod y cwmni’n ennill y ras i geisio atal olew rhag gollwng yng nghwlff Mecsico.
Mae Tony Hayward yn gwadu’r cyhuddiad fod y cwmni wedi bod yn araf yn ymateb i’r drychineb.
Yn hytrach, fe ddywedodd bod BP wedi “gor-ymateb” i’r drychineb olew ar 20 Ebrill sydd wedi lladd 11 o weithwyr.
Gosod cromen ddur
Fe fydd cromen ddur yn cael ei gosod er mwyn sianelu’r olew sydd wedi gollwng i long arbenigol dros y penwythnos.
“Rydan ni’n atal y gollwng…Y rheswm dyw’r olew ddim yn cyrraedd y traethau yw oherwydd ein bod ni yn atal hynny rhag digwydd. Dydyn ni ddim yn gwybod os fydd hi’n bosibl parhau i wneud hynny, ond ar hyn o bryd, rydan ni’n llwyddo,” meddai Tony Hayward.
Yn ôl amcangyfrifon BP, ar ddiwrnod drwg – mae’n bosibl y gall cymaint â 2.5 miliwn galwyn o olew ollwng y dydd – er bod 1.7 miliwn o alwyni’n fwy realistig.
Fe wnaeth cyfranddaliadau’r cwmni ddisgyn mwy na 4% ddoe ac maen nhw wedi gollwng 15% ers i’r trychineb ddechrau – gan gostio ostwng gwerth y cwmni o £20 biliwn.