Dywed y Comisiwn Ewropeaidd mai taclo dyled ym Mhrydain ddylai gael blaenoriaeth llywodraeth newydd Prydain.

Yn ôl ffigyrau gyhoeddwyd gan Gomisiynydd achosion economaidd ac ariannol Ewrop, Olli Rehn, mae adferiad economaidd yn digwydd ar draws Ewrop.

Ond mae’r ffigurau hefyd yn datgelu bod lefelau dyledion Prydain yn uwch nag unrhyw wlad arall yn yr Undeb Ewropeaidd.

Mae’r rhagolygon yn dangos bod dyled y Deyrnas Unedig yn 88% o gynnyrch domestig gros (GDP) yn 2011/12- ymhell uwchben yr uchafswm o 60% sy’n cael ei ganiatáu yn rhanbarth Ewrop.

Mae diffyg y Deyrnas Unedig hefyd bedair gwaith yn fwy na’r uchafswm Ewropeaidd o 3%.

“Y peth cyntaf sydd angen i lywodraeth newydd Prydain ei wneud yw cytuno ar raglen bolisi uchelgeisiol i ddechrau lleihau’r diffyg uchel a sefydlogi lefel dyled uchel. Dyma’r her bwysicaf i’r llywodraeth newydd,” meddai Olli Rehn.