Cadarnhaodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams y byddai’n rhaid i rai ysgolion aros ar agor dros wyliau’r Pasg er mwyn cefnogi plant bregus a phlant gweithwyr allweddol.

Yn ystod cynhadledd i’r wasg heddiw (Ebrill 1), dywedodd Kirsty Williams y bydd gweithwyr addysg yn sicrhau bod darpariaeth angenrheidiol ar gael i weithwyr allweddol dros gyfnod y Pasg, sy’n cynnwys penwythnosau a gwyliau banc.

Cadarnhaodd y Gweinidog Addysg fod 800 o ysgolion yng Nghymru ar agor gyda thua 3,500 o blant yng Nghymru yn mynychu.

Dim cyfarpar amddiffynol i athrawon

Dywedodd y Gweinidog Addysg nad oedd unrhyw gynlluniau i roi cyfarpar amddiffynnol i athrawon sy’n parhau i weithio.

Dywedodd: “ar hyn o bryd y Cyngor yr ydym wedi ei dderbyn yw y dylai’r pethau arferol yr ydych yn disgwyl i fod ar gael yn yr ysgol gael ei ddarparu, hylif diheintio dwylo, dŵr poeth, sebon a deunyddiau glanhau.”

“Rydym yn parhau i adolygu’n sefyllfa a’r hyn sydd ei angen yn ein hysgolion, gan gymryd cyngor gan y Prif Swyddog Meddygol a gweithwyr iechyd cyhoeddus proffesiynol – os cawn ein cynghori i roi mesurau ychwanegol mewn lle byddem yn gwneud hynny.”

Dywedodd ei bod hi’n “rhy gynnar” i ddweud os bydd nifer o achosion o coronafeirws yn parhau i gynyddu yng Nghymru, ond dywedodd bod dilyn rheolau pellter cymdeithasol  yn helpu i achub bywydau a’i fod “yn gwastatáu’r gromlin”.

Ychwanegodd Kirsty Williams mai Cymru yw’r unig wlad yng ngwledydd Prydain sy’n cynnig prydau ysgol am ddim i ddisgyblion cymwys dros wyliau’r Pasg. Penderfyniad a groesawyd gan David Evans, Ysgrifennydd Cymru dros yr Undeb Addysg Cenedlaethol:

“Mae hwn yn gyhoeddiad i’w groesawu gan Lywodraeth Cymru ar brydau ysgol am ddim. Bydd ein haelodau yn falch o glywed Llywodraeth Cymru yn meddwl am y rhai sydd fwyaf mewn angen ar yr adeg anodd hon.”