Fe fydd Cymru yn dychwelyd i Japan yr Haf hwn i chwarae gêm brawf rhyngwladol cyn teithio i Seland Newydd ar gyfer dwy gêm brawf.

Fe dreuliodd y Cymry wyth wythnos yn Japan y llynedd gan gyrraedd rownd gynderfynol Cwpan y Byd.

Mi fyddan nhw yn dychwelyd i’r wlad ar gyfer gêm yn erbyn Japan ar Fehefin 27, cyn mynd yn eu blaenau i herio Seland Newydd yn Auckland ar Orffennaf 4 a Wellington ar Orffennaf 11.

Dywedodd Wayne Pivac, hyfforddwr Cymru: “Bydd dychwelyd i Japan yn gêm fawr i Gymru ar gynffon Cwpan Rygbi’r Byd llwyddiannus iawn i Japan ar, ac oddi ar y cae… bydd yn wych i’r garfan gael dychwelyd i Japan ar gyfer gêm brawf gynta’r Haf.”