Mae rheolwr tîm pêl-droed Abertawe’n dweud bod y posibilrwydd o gyflawni’r dwbwl dros Gaerdydd yn y gynghrair – a hynny am y tro cyntaf erioed – yn ychwanegu at eu hawydd i ennill.
Bydd yr Elyrch yn teithio i Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Sul (Ionawr 12, 12 o’r gloch) wrth geisio ennill dwy gêm gynghrair y tymor yn erbyn eu gelynion pennaf am y tro cyntaf yn eu hanes.
Heriodd y cymdogion ei gilydd am y tro cyntaf yn 1912, pan gafodd Clwb Pêl-droed Abertawe ei ffurfio.
Caerdydd oedd gwrthwynebwyr cyntaf erioed yr Elyrch mewn gêm gystadleuol yng Nghynghrair y De.
Maen nhw wedi bod yn yr un gynghrair 31 o weithiau yn eu hanes, ond dydy’r naill dîm na’r llall erioed wedi ennill y ddwy gêm gynghrair yn yr un tymor.
“Ry’n ni’n ymwybodol nad yw’r dwbwl erioed wedi cael ei gyflawni, ond all hynny ddim ond ychwanegu at ein hysgogiad,” meddai Steve Cooper yn y gynhadledd wythnosol i’r wasg.
“Mae’n ein galluogi ni i fod mor barod ag yr ydyn ni yn unrhyw le, ac mae’n ein gyrru ni i le mae angen i ni fod.
“Yr agosa’ mae’r gêm yn dod, fwya’ mae angen i chi ganolbwyntio ar yr hyn sy’n ennill y gêm i chi.
“Mae cyd-destun i bob gêm, ond ry’n ni’n gwybod hynny ac mae’n ein hysgogi ni.
“Ond rhaid i ni bwyllo a chofio beth sydd angen ei wneud er mwyn ennill.”
Ffau’r llewod
Mae Abertawe’n gwybod y byddan nhw’n camu i ffau’r llewod yn Stadiwm Dinas Caerdydd, lle mae disgwyl 30,000 o gefnogwyr, a’r rhan fwyaf ohonyn nhw yng nghrysau’r Adar Gleision.
“Dy’n ni ddim yn disgwyl [awyrgylch] braf iawn,” meddai Steve Cooper.
“Unwaith daw’r gic gyntaf, mae yna sŵn mewn unrhyw stadiwm yn y gynghrair, ond dydych chi ddim wir yn clywed ryw lawer.
“Rydych chi ond yn dueddol o ganolbwyntio ar y gêm.”
‘Y tîm sy’n bwysig, nid fi’
Pan heriodd y ddau dîm ei gilydd yn Stadiwm Liberty yn gynharach yn y tymor, roedd cryn drafod am y sïon fod Steve Cooper yn cefnogi Caerdydd – rhywbeth mae’n ei wadu o hyd.
Yn wir, mae’n gyndyn o drafod yr Adar Gleision mewn unrhyw ffordd, gan fynnu bod rhaid canolbwyntio ar ei dîm ei hun.
Ond wrth drafod ei wrthwynebydd Neil Harris, mae’n dweud iddo “ddod ar ei draws” sawl gwaith yn y gorffennol.
“Fe wnaeth e waith da ym Millwall. Ond dw i ddim wedi talu ryw lawer o sylw i’w gyfnod cynnar yng Nghaerdydd.
“Ry’n ni ond yn canolbwyntio arnon ni ein hunain.”
‘Dim sylw’ i Neil Harris
“Fe welais i fe yng ngêm Cymru yn erbyn Hwngari ond ddim ers hynny, a dw i’n sicr ddim wedi cael cinio gyda fe,” meddai wrth gyfeirio at Paulo Sousa a Neil Warnock yn cael cinio cyn gêm ddarbi yn y gorffennol.
“Ry’n ni ond yn canolbwyntio arnon ni ein hunain am y tro, ac yn credu yn yr hyn ry’n ni’n ceisio’i wneud.
“Boed mewn gêm ddarbi neu gêm arall, ein nod yw dod â’n gêm ni at y gwrthwynebwyr.
“Os gallwn ni wneud hynny, gallwn ni ennill unrhyw gêm.
“Oddi cartre’, ry’n ni’n chwarae mewn modd sy’n gallu ennill y gêm.
“Nid fi sy’n bwysig, ond y clwb. Un gweithiwr ydw i, yn ceisio gwneud fy ngwaith.
“Nid unigolion sy’n bwysig, ond pawb gyda’i gilydd a dyna sy’n gwneud y clwb hwn yn arbennig yn y ddinas hon. Mae’n unigryw.”