Fydd Gareth Bale ddim yn gadael Real Madrid ym mis Ionawr ac mae’n “annhebygol iawn” o adael y clwb yn yr haf, yn ôl ei asiant.

Mae cytundeb y Cymro yn para tan Fehefin 2022, ac wrth i sïon gynyddu am ei ddyfodol â’r clwb, mae Jonathan Barnett wedi taflu goleuni ar y sefyllfa.

Mae’r asiant wedi dweud bod y pêl-droediwr “yn mynd nunlle” tra bod cyfnod trosglwyddo Ionawr yn mynd rhagddo, a’i fod yn aros â’r clwb am y tro.

Roedd Gareth Bale ar fin gadael Tsieina’r haf diwethaf, ac mae peth dyfalu y gallai ddychwelyd at chwarae yn yr Uwch Gynghrair.

Mae rhai wedi awgrymu y gallai diweddu fyny yn symud i Manchester United – ei gyn-glwb – neu Tottenham y mis hwn.