Malan Wilkinson sy’n dweud bod cerddorion Cymru yn elwa ar fynd allan i’r byd, a chroesawu’r byd i Gymru…
Rydan ni ar drothwy prif wyliau’r calendr cerdd yng Nghymru’r haf hwn, sef Eisteddfod yr Urdd fis nesaf, Eisteddfod Gydwladol Llangollen wedyn ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru fis Awst.
Ond, mae dwy gamp gerddorol arall wedi creu argraff arna’ i yn ystod y mis a’r rheiny’n rhoi cyfle i’r Cymry godi eu gêm wrth herio cerddorion o’r tu allan i’n gwlad.
Y cyntaf yw llwyddiant Band Pres Hŷn Cylch Ieuenctid Gwynedd a Môn yn ennill prif deitl Pencampwyr Bandiau Pres Ieuenctid Prydain.
Fe wnaeth y band pres, dan arweiniad Gwyn Evans a thiwtoriaid eraill gyrraedd brig uwch adran y bencampwriaeth yn Ysgol Gerdd y Royal Northen College of Music ym Manceinion.
Hefyd, dau o brif chwaraewyr cornet soprano’r band, Owen Pickering o Lanllechid a Graham Bushel o Lanfairpwll, a enillodd wobrau chwaraewyr mwyaf addawol yr adran.
Mae’n galonnog gweld cerddorion o Gymru’n mentro tu allan i’r wlad ac yn llwyddo, gan ennill ymwybyddiaeth ehangach yn y byd cerddorol.
“Mae rhywun yn gweithio yn ei ardal ei hun yng Nghymru ond ddim yn sylweddpoli beth ydi’r safon nes mynd allan o Gymru i gystadlu,” meddai Gwyn Evans, yr arweinydd.
Wrth gwrs nid pawb sy’n mentro y tu allan i Gymru’n ‘llwyddiannus’ ac yn haeddu ‘clod’. Ond, mi rydw i, fel Gwyn Evans yn credu bod cerddorion ifanc yn cael gwell syniad beth yw’r safon wrth gystadlu yn erbyn y gorau o lefydd eraill.
‘Dw i hefyd yn credu bod amrywiaeth o brofiadau perfformio ar lefel cenedlaethol, prydeinig a rhyngwladol yn creu cerddorion mwy hyddysg a phrofiadol.
Mae Band Pres Hŷn Cylch Ieuenctid Gwynedd a Môn yn enghraifft o fand pres safonol o Gymru yn disgleirio ar lwyfan Prydeinig.
Band Pres Gwynedd a Môn
Gŵyl Delynau Ryngwladol Cymru
Yr ail ddigwyddiad cerddorol i greu argraff arna i oedd Gŵyl Delynau Ryngwladol Cymru, ar 4 Ebrill hyd 10fed yn y Galeri, Caernarfon.
Roedd telynorion ifanc o Gymru yn cynnwys Hannah Stone, Benjamin Creighton Griffiths, Anne Denholm, Elen Hydref a Glain Dafydd yn rhan o’r ŵyl.
Roedd eu cyfraniad a’u llwyddiant yn amlwg ar lwyfan ryngwladol yr ŵyl wrth iddyn nhw gystadlu yn erbyn ymgeiswyr o Rwsia, Groeg, Lloegr, Lithwania, Yr Eidal, Singapore, Hwngari a’r Iseldiroedd.
Does dim amheuaeth gen i fod traddodiad eisteddfodol cyfoethog yng Nghymru. Ond mae profiad mewn gŵyl fel hon yn hanfodol i unrhyw delynor ifanc sydd â’i fryd ar lwyddo.
Gwahanol
Mae fformat y cystadlu a pheth o’r gofynion yn wahanol i’r drefn eisteddfod arferol yng Nghymru.
Mae’n orfodol perfformio darnau prawf arbennig a phaneli sy’n beirniadu’r amrywiol gystadlaethau. Efallai bod hyn yn sbarduno’r cerddor i feddwl am y broses o baratoi rhaglen mewn ffordd wahanol gan ganolbwyntio ar fwy na dau ddarn penodol yn unig.
Mae’r ŵyl hefyd yn cynnig cyfle i bobol ifanc gyfarfod ymgeiswyr eraill o bedwar ban byd a rhannu profiadau.
Ond, efallai mai un o’r prif resymau yr ydw i’n hoff o’r ŵyl hon yw ei bod wedi creu llwyfan safonol i feithrin traddodiad sy’n bwysig i Gymru – ar lefel ryngwladol.
Er bod Cymry wedi mentro i Fanceinion yn y digwyddiad cyntaf a’r byd wedi dod i Gymru yn yr ail – mae un peth yn glir, mae presenoldeb cenhedlaeth ifanc cerddorion ‘fory yn amlwg yng Nghymru a thu hwnt.