Gyda’r ddadl am fewnfudo’n cael lle amlwg yn ymgyrch yr etholiad, mae Cyngor Dinas Abertawe wedi datgelu eu bod wedi gorfod troi at wledydd eraill Ewrop i gael gweithwyr cymdeithasol.
Fe fydd pump o bobol o rannau eraill o’r cyfandir yn dechrau gweithio i Adran Wasanaethau Cymdeithasol y cyngor ar ôl dod draw i gael eu cyfweld ym mis Mawrth.
Yn ôl Cyfarwyddwr yr adran, Chris Maggs, mae’n newyddion “ardderchog” yn eu hymdrech i geisio gwella eu gwasanaethau i blant a theuluoedd.
Beirniadu
Mae’r Cyngor wedi cael ei feirniadu’n hallt am safon ei wasanaethau plant a’r llynedd, fe benododd y Llywodraeth arbenigwyr i oruchwylio’i waith yn gwarchod plant a phobol ifanc fregus.
Nid dyma’r tro cynta’ i’r adran recriwtio o Ewrop ond maen nhw’n dweud eu bod wedi gorfod gwneud hynny eto oherwydd prinder cenedlaethol o weithwyr cymdeithasol a chynnydd mawr yn nifer y plant sydd mewn gofal.
Fe gododd y rheiny 40% yn Abertawe y llynedd i gyrraedd cyfanswm o 554 erbyn yr wythnos hon ac mae 240 arall ar y Gofrestr Diogelu Plant.
Ar yr un pryd, yn ôl y cyngor, mae 16 o swyddi gwag o fewn y gwasanaethau plant a theuluoedd.
Mae’r pum gweithiwr newydd yn dod o’r Almaen, Sweden a’r Iseldiroedd.
Meddai’r Cyfarwyddwr
Dyma a ddywedodd Chris Maggs mewn datganiad:
“R’yn ni’n buddsoddi £6.4 miliwn yn rhagor mewn gwasanaethau plant a theuluoedd eleni ac, o ran recriwtio, mae’r arian yna’n cael ei roi ar waith i gael y canlyniadau cyflyma’ posib.
“Mae’n cymryd tair blynedd i hyfforddi gweithiwr cymdeithasol sy’n dod yn syth o’r brifysgol ac, er ein bod yn gwneud hynny hefyd, mae arnon ni angen gweithwyr cymdeithasol profiadol yn awr i gefnogi’r nifer cynyddol o bobol ifanc yn ein gofal.”