Mae gweinidogion cyllid gwledydd yr Ewro wedi cytuno ar becyn ariannol i arbed gwlad Groeg rhag mynd yn fethdalwr.
Bydd y cytundeb am fenthyciad o 110 biliwn ewro i’r wlad dros y tair blynedd nesaf yn golygu toriadau llym mewn gwario cyhoeddus.
Mewn darllediad byw ar y teledu heddiw, galwodd Prif Weinidog Groeg, George Papandreou, ar ei gydwladwyr i “wneud aberth fawr” er mwyn osgoi trychineb.
“Rwyf wedi gwneud popeth i beidio â gadael i’r wlad fynd yn fethdalwr – a byddaf yn parhau i wneud hynny,” meddai.
“Rydym wedi argyhoeddi’n partneriaid nad ein problem ni’n unig yw problem Groeg. Mae’n ymwneud â gweithgaredd y marchnadoedd a sefydlogrwydd yr ewro.”
Dywedodd y prif weinidog y bydd y mesurau’n effeithio ar gyflogau’r sector cyhoeddus ac ar bensiynau; y bydd trethi’n codi ar wariant; ac y bydd toriadau llym mewn gwario ar amddiffyn a chodi ysbytai newydd.
Daw’r cyhoeddiad ar ôl i filoedd o brotestwyr fod allan ar strydoedd Athen ddoe yn gwrthwynebu’r toriadau, ac mae undebau’r wlad yn trefnu streic gyffredinol ddydd Mercher.
Mae disgwyl y bydd senedd Groeg yn rhoi sêl eu bendith ar y mesurau ddydd Gwener.
Llun: Y Prif Weinidog George Papandreou yn cyrraedd cyfarfod o’r cabinet yn senedd Groeg yn Athen y bore yma (AP Photo/Thanassis Stavrakis)