Mae’r pencampwr snwcer John Higgins wedi cael ei wahardd dros dro o’r gêm tra bydd ymchwiliad yn cael ei gynnal i honiadau ei fod wedi cytuno i gael ei lwgrwobrwyo.

Mae’r honiad yn y News of the World heddiw amdano ef a’i reolwr wedi cytuno i dderbyn £261,000 am golli pedair ffrâm wedi taflu cysgod uwchben diwrnod gemau terfynol pencampwriaeth snwcer y byd.

Wrth gadarnhau fod un o sêr disgleiriaf y byd snwcer yn cael ei wahardd, dywedodd Barry Hearn, pennaeth corff llywodraethu’r gêm, ei fod wedi dychryn am ei fywyd gan yr honiadau.

Cafodd yr Albanwr John Higgins, sydd wedi bod yn bencampwr y byd dair gwaith, ei ddal ar gamera mewn cyfarfod gyda newyddiadurwyr cudd yn cymryd arnynt i fod yn ddynion busnes yn Kiev, prifddinas yr Wcrain.

Digwyddodd y cyfarfod honedig ar ôl iddo golli yn erbyn Steve Davis yr wythnos ddiwethaf.

Nid yw’r papur newydd yn cyhuddo John Higgins o unrhyw gamweddau yn y gorffennol, ac nid oes unrhyw awgrymiadau ei fod wedi fficsio canlyniadau unrhyw fframiau cyn hyn.

Wrth wadu’r honiadau’n llwyr, dywedodd John Higgins mewn datganiad nad yw erioed, mewn 18 mlynedd o chwarae’n broffesiynol, wedi methu ergyd yn fwriadol, heb sôn am ffrâm, ac na fyddai byth yn gwneud dim a fyddai’n dwyn anfri ar y gêm,.

Llun: John Higgins yn ennill y bencampwriaeth y llynedd