Wrth i ddydd yr etholiad nesáu mae’r arolygon barn diweddara’n awgrymu fod y Torïaid wedi ymestyn ymhellach ar y blaen i’r ddwy brif blaid Brydeinig arall.

Mae’r arolygon, sy’n cael eu cyhoeddi mewn amryw o bapurau Sul heddiw, yn dangos cefnogaeth y Ceidwadwyr rhwng 35% a 38%, gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi llithro’n ôl i rhwng 25% a 29% a Llafur ar rhwng 23% a 29%.

Fodd bynnag, petai’r canlyniadau yma’n cael eu gwireddau ar ogwydd unffurf trwy Brydain, byddai’r Torïaid yn dal yn fyr o fwyafrif dros bawb, er mai nhw fyddai’r blaid fwyaf o ddigon.

Un o addewidion David Cameron heddiw yw y bydd llywodraeth Geidwadol yn gweithredu ar unwaith i dorri ar rym ‘y Brawd Mawr’. Dywedodd y byddai’n cael gwared ar gynlluniau Llafur i gyflwyno cardiau adnabod, adfer rheithgorau mewn achosion cymhleth ac yn dileu hawliau beiliaid ac arolygwyr treth cyngor i fynd i mewn i gartrefi pobl.

Yn y cyfamser mae’r Prif Weinidog Gordon Brown wedi ymosod yn hallt ar bersonoliaeth a pholisïau arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Nick Clegg. “Sôn yr ydyn ni am ddyfodol ein gwlad – nid am gyflwynydd newydd sioe deledu,” meddai.

Fe ddisgrifiodd bolisïau’r Democratiaid Rhyddfrydol ar fewnfudo a threth fel “y math o beth yr ydych yn ei wneud wrth drafod eich polisïau dros ginio a’u hysgrifennu nhw ar gefn amlen.”

Mae Nick Clegg, fodd bynnag, yn dweud y bydd ei blaid yn cymryd lle Llafur fel y prif rym blaengar yng ngwleidyddiaeth Prydain. Mae’n pwyso ar etholwyr i “beidio â chymryd eu dychryn gan y pleidiau eraill i ddweud na allan nhw gymryd siawns am newid mawr y tro yma.”

Barn y papurau

Mae mwyafrif y papurau newydd yn ochri gyda rhyw blaid neu’i gilydd heddiw.
Mae’r Observer, fel ei chwaer bapur, y Guardian, wedi cyhoeddi ei fod yn cefnogi’r Democratiaid Rhyddfrydol.

Mae’r Sunday Telegraph, y Mail on Sunday a’r Sunday Express yn cefnogi’r Ceidwadwyr.

Mae’r Independent on Sunday yn pwyso ar ei ddarllenwyr i bleidleisio’n dactegol yn erbyn y Torïaid yn y gobaith o gael senedd grog lle gallai clymblaid rhwng Llafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol gyflwyno diwygiadau i’r system bleidleisio.