Mae gwraig 63 oed o Ddinbych y Pysgod wedi torri pob record wrth redeg 27 marathon mewn 27 diwrnod.

Wrth gwblhau ei champ gerllaw ei chartref neithiwr, dywedodd Rosie Swale Pope ei bod “wedi blino, ond yn hapus iawn, iawn” ar ôl rhedeg 707 o filltiroedd.

Ei bwriad gwreiddiol oedd gorffen ddydd Gwener yn Llanelli ar ôl ei 26ain marathon yn olynol, ond fel teyrnged i’w channoedd o gefnogwyr o bob rhan o Brydain rhedodd un farathon ychwanegol ddoe.

“Roedd yn ffantastig. Fe groesais i’r llinell derfyn yn Sgwâr Tudor yn Ninbych y Pysgod, ac roedd fel breuddwyd,” meddai.

“Roedd plant rhedwyr a oedd wedi fy nghefnogi yno, ac fe wnaeth Maer Dinbych y Pysgod gyflwyno tusw o flodau imi. Roedd yn ddiwedd hyfryd.”

Teithio’r byd

Roedd Rosie Pope eisoes wedi gwneud enw iddi hi ei hun ar ôl treulio pum mlynedd yn rhedeg rhedeg 20,000 rownd y byd rhwng 2003 a 2008.

Roedd hi wedi cyflawni’r gamp er cof am ei gŵr a fu farw o ganser.

Bydd yr arian y mae hi wedi godi’n mynd at hosbis plant Tŷ Hafan yng Nghaerdydd a Helen & Douglas House yn Rhydychen.

“Y prif beth imi yw codi hynny o arian ag sy’n bosibl at blant, dw i’n poeni dim am dorri recordiau,” meddai neithiwr.

“Dw i’n credu y dylai pobl ymestyn allan i wneud yr hyn y mae arnyn nhw eisiau ei wneud.

“Er fy mod i’n 63 mae gwneud rhywbeth fel hyn yn gwneud imi deimlo fel petawn i’n 36.”

Ers iddi gychwyn rhedeg o Ddinbych y Pysgod ddydd Llun y Pasg mae hi wedi bod trwy Fryste, Llundain, Tunbridge Wells a Bury St Edmunds ar ei thaith cyn cyrraedd yn ôl adref neithiwr.

Llun: Rosie Pope ar ôl cwblhau ei 27ain marathon neithiwr