Mae’r Taliban ym Mhacistan wedi hawlio cyfrifoldeb am y bom y cafwyd hyd iddo yn Efrog Newydd neithiwr, yn ôl neges ar y rhyngrwyd.

Dywed y fideo fod yr ymosodiad yn dial am farwolaeth ei arweinydd Baitullah Mehsud ac am y ddau o arweinwyr al Qaida a gafodd eu lladd yn Irac.

Bu’n rhaid clirio miloedd o ymwelwyr o ganol y ddinas neithiwr ar ôl i’r heddlu gael hyd i fom pwerus mewn cerbyd yn Times Square.

“Fe fuon ni’n lwcus iawn o osgoi’r hyn a fyddai wedi bod yn ddigwyddiad marwol,” meddai Maer y Ddinas, Michael Bloomberg. “Gallai fod wedi achosi tân a ffrwydrad mawr.”

Gwerthwr crysau T ar ochr y stryd a sylwodd ar fwg yn codi o gerbyd Nissan Pathfinder du a oedd wedi parcio gerllaw. Rhuthrodd heddlu arfog yno i gau’r strydoedd a defnyddiwyd robot i dorri ffenestri’r cerbyd i dynnu’r ffrwydron ohono.

Mae Times Square yn un o fannau prysuraf y ddinas gerllaw rhai o brif theatrau Broadway a lle’r oedd miloedd o ymwelwyr yn mwynhau noson gynnes o wanwyn neithiwr.

Mae’r Arlywydd Barack Obama wedi canmol Adran Heddlu Efrog Newydd am ymateb mor effeithiol i’r argyfwng.

Cafwyd hyd i’r fideo sy’n hawlio cyfrifoldeb gan wasanaeth cudd sy’n cadw llygad ar wefannau gwrthryfelwyr.

Llun: Times Square yn wag neithiwr wrth i’r heddlu glirio’r dyfeisiadau ffrwydrol (AP Photo/Craig Ruttle)