Bydd y rhaglen radio Taro’r Post yn dod i ben, wrth i raglen newyddion a materion cyfoes newydd gymryd ei lle. 

Bydd Dros Ginio, a fydd yn cael ei darlledu rhwng 12 a 2yp o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn dechrau fis Tachwedd, a bydd yn “gymysgedd o newyddion ac adloniant”, yn ôl BBC Radio Cymru.

Y cyflwynwyr fydd Dewi Llwyd ar ddyddiau Llun a Gwener; Jennifer Jones ar ddydd Mawrth; Vaughan Roderick ar ddydd Mercher; a Catrin Haf Jones ar ddydd Iau.

Bydd Dewi Llwyd yn rhoi’r gorau i gyflwyno’r Post Prynhawn wedi saith mlynedd. Dywedodd llefarydd ar ran y BBC y bydd Post Prynhawn yn aros a bydd enw cyflwynydd newydd i gymeryd lle Dewi yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir

“Os bu angen erioed am raglen i graffu ar ddigwyddiadau’r byd o’n cwmpas, a hynny drwy lygaid y Cymry, dyma’r amser,” meddai Rhuanedd Richards, Golygydd BBC Radio Cymru.

“Felly, rydym yn cyflwyno sgwrs i’r genedl dros ginio i drafod a mynd o dan groen stori fawr y dydd, yn ogystal â rhoi gofod i lais y gynulleidfa drwy wthio am ymatebion clir i’r cwestiynau caled i’n helpu i wneud synnwyr o’r byd o’n cwmpas.”

Beth am Garry Owen?

Bydd Taro’r Post yn dod i ben yn sgil y newid i’r amserlen, yn ogystal â rhai o’r rhaglenni hanner awr a ddarlledir yn ystod amser cinio.

Diolchodd Rhuanedd Richards i Garry Owen a â thîm cynhyrchu Taro’r Post am eu gwaith ar hyd y blynyddoedd.

“Bydd Garry yn parhau i fod yn aelod allweddol o wasanaeth newyddion yr orsaf a byddwn yn parhau i glywed ei lais,” meddai.

Bydd Benbaladr a Stiwdio yn cael eu darlledu fin nos yn ystod yr wythnos yn hytrach nag yn ystod y dydd, yn ogystal ag ail-ddarllediad Talwrn y Beirdd.

Ychwanegodd Rhuanedd Richards: “Hoffwn ddiolch hefyd i gyflwynwyr a thimau rhaglenni eraill yr orsaf dros amser cinio.”