Dau o fyfyrwyr adran Gwleidyddiaeth Prifysgol Aberystwyth, Bleddyn Bowen a Bethan Foweraker, sy’n cymryd cip ar y ras agos yng Ngheredigion …
Yng Ngheredigion y mae’r frwydr ar ei mwyaf amlwg rhwng Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol. Mae’n amhosib i’w osgoi – mae arwyddion Plaid a’r Democratiaid Rhyddfrydol fel brech yr ieir dros gefn gwlad ac wedi’u plastro dros pob drws a ffenestr wag yn Aberystwyth.
Er gwaetha’r ffaith mai dim ond 200 o bleidleisiau oedd rhwng y ddwy blaid yn 2005 mae Plaid Cymru’n wynebu llethr serthach i ail ennill y sedd eleni yn sgil perfformiadau Nick Clegg yn nadleuon arweinwyr y prif bleidiau Prydeinig.
Yn ogystal â hynny, mae Undeb Myfyrwyr yn Aberystwyth wedi bod yn annog myfyrwyr i gofrestru i bleidleisio, a gyda mwy na 200 ohonyn nhw eisoes wedi gwneud hynny, fe allai wneud gwahaniaeth mawr i’r canlyniad dydd Iau.
Rali – gynnau mawr y Blaid
Cynhaliodd Plaid rali lwyddiannus yng nghanol Aberystwyth ddydd Sadwrn 24 Ebrill, ac roedd pob un o’u ‘gynnau mawr’ i’w gweld ar y strydoedd. Yn eu mysg, roedd Dafydd Iwan, Ron Davies (cyn Ysgrifennydd Cymru), Ieuan Wyn Jones, Elfyn Llwyd, Elin Jones, ac wrth gwrs yr ymgeisydd, Penri James, ei hun.
Prif thema’r rali oedd pwysleisio bod y Democratiaid Rhyddfrydol yn blaid o Lundain, tra bod Plaid Cyrmu yn blaid o Gymru, i’r Cymry. O ran newid y system ethol, roedd Plaid yn mynnu taw eu syniad nhw oedd hynny gynta, ymhell cyn i’r Democratiaid Rhyddfrydol ei fabwysiadu.
Hystings
Nos Lun, yr 26ain o Ebrill cynhalwyd hystings yn Aberystwyth. Roedd pob un o’r ymgeiswyr yng Ngheredigion yno, heblaw am ymgeisydd UKIP, Elwyn Williams.
Roedd arfau niwclear Trident yn un o’r pynciau llosg, ac fe wnaeth yr ymgeisydd Llafur, Richard Boudier, ymdrech dda i amddiffyn y rhesymeg tu ôl i gadw’r system yn erbyn panel oedd yn gytun yn erbyn eu hadnewyddu. Cyfaddodd ymgeisydd y Ceidwadwyr, Luke Evetts, ei fod yn anghytuno gyda pholisi’r blaid Geidwadol ynglŷn â’r mater, ac nad oedd yn gallu amddiffyn polisi ei blaid.
Ond dadl rhwng Plaid a’r Democratiaid Rhyddfrydol oedd hon ac mae’n deg dweud mai Penri James a gafodd y gymeradwyaeth gryfaf – efallai bod mwy o gefnogwyr Plaid ymysg y gynnulleidfa! Er hynny roedd Mark Williams yn siaradwr gwell ac roedd yn gallu ymateb yn dda i bob un o’r pynciau a godwyd.
Un peth sy’n sicr …
Roedd yr hystings yn adlweyrchiad clir o’r sefyllfa yng Ngheredigion – mae gan Blaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol eu cryfderau, ac mae’n amhosib rhagweld beth fydd y canlyniad yn oriau man y bore 7 Mai. Yr unig beth sy’n sicr yw y bydd hi’n agos.