Mae ffrwydriad ym mhrifddinas Somalia heddiw wedi lladd o leiaf 20 o bobol, yn ôl llefarydd ar ran Undeb Affrica.

Mae’r Uwch Gapten Barigye Bahoku yn dweud i’r ffrwydriad ddigwydd ger mosg ym mhrif farchnad Mogadishu.

Mae gwrthryfelwyr Islamaidd yn rheoli llawer o Mogadishu, ac maen nhw wedi bod yn trio dymchwel y llywodraeth fregus ers tair blynedd.

Dyw Somalia ddim wedi bod dan lywodraeth sefydlog ers bron i 20 mlynedd.