Heddiw, mae David Cameron wedi gwrthod y syniad y gallai’r Ceidwadwyr daro bargen gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol, pe na bai’r un blaid yn cael mwyafrif clir ar ôl etholiad yr wythnos nesaf.
Mae’r parhau i frwydro am fuddugoliaeth lawn, meddai, gan ddadlau bod angen “arweinyddiaeth gref a phenderfynol” ar wledydd Prydain.
“Y cyfan sydd ar fy meddwl i yn ystod y dyddiau olaf yma, ydi sut allwn ni sicrhau buddugoliaeth,” meddai David Cameron, tra’n ymgyrchu yn ei etholaeth ef ei hun yn Swydd Rhydychen.
“Nid oherwydd mai dyna fyddai orau i’r Blaid Geidwadol, ond oherwydd mai dyna fyddai orau i wledydd Prydain.
“Mae angen arweinyddiaeth gref yn y cyfnod ansicr hwn, a dyna mae’r Ceidwadwyr yn ei gynnig. Mae ganddon ni’r egni i fynd â’r wlad i’r cyfeiriad cywir.”