Mae cyn-athro gwleidyddol o America wedi addo ei gefnogaeth i un o ymgyrchwyr y Democratiaid Rhyddfrydol heddiw – heb sylweddoli ei fod yn siarad gyda’r arweinydd, Nick Clegg!
Fe gymrodd Charles Hauss, ar ôl gwylio pob un o’r dadleuon teledu, fod Mr Clegg yn rhan o’r tim ymgyrchu ar ran y blaid, wrth deithio ar y trên rhwng Llundain a Taunton.
Fe ofynnodd wrtho, “Beth ydych chi’n ei wneud dros Clegg?” cyn cael yr ateb yn ôl yn syth, “Ond fi ydi Clegg”.
Cywilydd
Fe ddaeth y digwyddiad â gwên i wynebau’r ymgyrchwyr, ond fe ddaeth â gwrid i ruddiau Mr Hauss, 62.
“Fe wyliais i’r dadleuon teledu i gyd, a gwylio’r gyntaf ddwywaith,” meddai.
“Doeddwn i ddim yn disgwyl i Mr Clegg fod yn teithio yn y rhan yma o’r trên… ac roedd e’n deneuach nag o’n i wedi’i ddisgwyl.
“Roedd e’n edrych yn iau nag o’n i’n disgwyl i ymgeisydd Prif Weinidogol fod.
“Dyma’r tro cynta’ y bydda’ i’n pleidleisio dros y Democratiaid Rhyddfrydol,” meddai’r cyn-ddarlithydd ym Mhrifysgol Washington.