Roedd hwyliau da ar Gordon Brown heddiw, wrth iddo deithio i ogledd ddwyrain Lloegr i ganfasio cyn yr Etholiad Cyffredinol.
Dywedodd na fyddai “byth yn ildio”, a dim ond pum diwrnod i fynd cyn y bydd pobol gwledydd Prydain yn bwrw’u pleidlais.
Fe wfftiodd benderfyniadau papurau’r Times a’r Guardian i gefnogi’r Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol (yn y drefn yna). Mae hynny’n “amherthnasol”, meddai Gordon Brown.
Brwydro
“Dw i’n brwydro, nid yn unig dros fy einioes wleidyddol i fy hun, ond dros yr hyn dw i’n ei gredu sy’n bwysig i ddyfodol Prydain,” meddai.
“Fe welwch chi ni’n brwydro bob munud o bob dydd, bob eiliad o bob dydd, am bob pleidlais, a hynny nes bydd yr ymgyrch drosodd.
“Dydw i erioed wedi ildio, a wna’ i ddim ildio.”