Mae rhieni Madeleine McCann yn dweud eu bod yn dal i obeithio y caiff eu merch ei chanfod yn fyw ac yn iach.
Ond, wrth iddyn nhw nodi tair blynedd ers diflaniad y ferch fach, dyw Kate a Gerry McCann ddim ronyn nes at wybod be’ ddigwyddodd iddi.
Mae heddluoedd ar hyd y lled y byd wedi bod yn chwilio amdani ers iddi ddiflannu o fflat gwyliau’r teulu yn Praia da Luz yn ne Portiwgal ar Fai 3, 2007.
Brwydr arall
Yn ogystal â dal i chwilio am Madeleine, mae Mr a Mrs McCann hefyd wedi bod yn brwydro yn y llysoedd yn ystod y flwyddyn aeth heibio.
Fe fu’r pâr o feddygon o bentre’ Rothley yn Swydd Leicester, yn y llys yn herio cyhoeddi llyfr gan un o dditectifs Portiwgal, Maddie: The Truth Of The Lie, sy’n honni fod y ferch wedi marw yn fflat y teulu.
Ym mis Chwefror eleni, fe benderfynodd barnwr yn Lisbon y dylai’r llyfr gael ei wahardd – ond hynny wedi i gyn-blismon ail-adrodd yr honiadau mewn achos cyhoeddus.
Dyw brwydrau’r teulu McCann ddim drosodd – mae disgwyl i’r ditectif apelio yn erbyn penderfyniad y llys, a mynd â’r achos bob cam i Lys Iawnderau Dynol Ewrop, os bydd raid.
Dal ati
Prif nod y pâr erbyn hyn yw cadw’r straeon a’r sôn am Madeleine ar flaenau papurau a meddyliau y cyhoedd.
Fe fydd pobol yn rhoi’r gorau i chwilio amdani os ydyn nhw’n credu ei bod hi wedi marw, medden nhw.