Mae rheolwr Wrecsam, Dean Saunders wedi bod yn trefnu ei garfan ar gyfer tymor nesaf a cheisio trefnu cytundebau newydd i’w chwaraewyr.

Mae disgwyl y bydd yna newidiadau sylweddol i’r garfan, ar ôl i Wrecsam orffen yng nghanol yr adran am yr ail dymor yn olynol.

Mae’r Dreigiau wedi cynnig cytundebau newydd i 13 o chwaraewyr y clwb, sef:

• Sam Russell
• Ashley Westwood
• Gareth Taylor
• Marc Williams
• Neil Taylor
• Frank Sinclair
• Andy Fleming
• Kai Edwards
• Kristian O’Leary
• Obi Anoruo
• Christian Smith
• Johnny Hunt
• Aaron Brown

Chwe mis i Marc Williams

Yn dilyn problemau gydag anafiadau, mae Marc Williams wedi cael cynnig cytundeb chwe mis newydd.

Mae trafodaethau gyda Mansour Assoumani yn parhau, ond mae’n annhebygol y bydd y clwb yn gallu cynnig yr un telerau â’i gytundeb presennol.

Mae pedwar chwaraewr arall – Curtis Obeng, Adrian Cieslewicz, Chris Maxwell ac Andy Mangan – gyda chytundebau sy’n para tan y tymor nesaf.

Gollwng deg

Ond fe fydd deg chwaraewr yn gadael Wrecsam, sef:

• Sam Williamson
• Mike Williams
• Mark Jones
• Hedi Taboubi
• Nathan Fairhurst
• Silvio Spann
• Wes Baynes
• Jamie McCluskey
• Matty Wolfenden
• Steve Abbott

Ni fydd Luke Holden, sydd wedi bod ar fenthyg gyda Wrecsam o’r Rhyl am dri mis, yn cael cytundeb newydd chwaith.

Ond Dean Saunders wedi penderfynu rhoi cyfle i rai o ieuenctid y clwb i ddangos eu doniau, gyda Declan Walker wedi cael cytundeb proffesiynol.

Mae Rob Pearson, Leon Clowes a Nick Rushton wedi cael eu gwahodd ‘nôl i ymarferion cyn dechrau’r tymor newydd.