Mae’r bowliwr cyflym, James Harris yn dychwelyd i dîm Forgannwg ar gyfer eu gêm un dydd yn erbyn Swydd Gaerhirfryn ddydd Sul yn y gynghrair 40 pelawd.

Ond does dim lle yn y garfan i’r troellwr Robert Croft – sy’n cael ei anwybyddu unwaith eto gan Gyfarwyddwr Criced Morgannwg, Matthew Maynard.

Yr unig newid arall i’r tîm gollodd eu gêm agoriadol o’r gystadleuaeth y penwythnos diwethaf yn erbyn Gwlad yr Haf yw ychwanegiad Huw Waters.

Dyw’r Dreigiau ddim wedi ennill yn Swydd Gaerhirfryn ers 2001, pan enillon nhw bencampwriaeth Adran Dau.

Carfan Morgannwg

Jim Allenby, Mark Cosgrove, Gareth Rees, Jamie Dalrymple, Tom Maynard, Ben Wright, Mark Wallace, Dean Cosker, James Harris, David Harrison, Chris Ashling, Huw Waters.