Mae heddwas o dde Cymru wedi cael ei garcharu am 12 mis ar ôl rhannu cannoedd o ddelweddau anweddus o blant dros y we.

Fe ddefnyddiodd Ditectif Cwnstabl Michael Thomas, 40 oed, o Bort Talbot, feddalwedd rhannu lluniau i anfon a derbyn delweddau o blant yn cael eu cam-drin yn rhywiol.

Fe dderbyniodd Michael Thomas 2,500 o ddelweddau, gan anfon 253 dros saith mis yn 2007.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd bod 456 o’r delweddau a dderbyniodd a 33 o’r rhai anfonodd yn anweddus.

11 cyhuddiad

Fe’i cafwyd yn euog gan y rheithgor yn gynharach yn y mis ar 11 cyhuddiad o ddosbarthu delweddau anweddus, deg o greu delweddau anweddus, ac un o feddu ar ddelweddau anweddus o blant.

Cafodd Michael Thomas ei ddal ar ôl i ymchwiliad gan y FBI.


Difrifol

Clywodd y llys bod pump o’r lluniau oedd ym meddiant Michael Thomas yn lluniau lefel pump – dyma’r lluniau mwyaf difrifol.

Roedd y ditectif wedi anfon lluniau anweddus at heddwas cudd, gan feddwl ei fod yn bedoffeil.

Pan chwiliodd yr heddlu ei gartref fe gafodd ei ganfod bod 30,000 o ffeiliau wedi cael eu dileu oddi ar gyfrifiadur Michael Thomas oriau ynghynt.

Dedfrydu

Wrth ddedfrydu Michael Thomas, fe ddywedodd y Barnwr David Morris bod y ditectif wedi cyfrannu at fasnach pornograffi plant.

“Oni bai am bobol sydd eisiau derbyn y delweddau yma, ni fyddai yna farchnad i gam-drin plant ar gyfer creu’r math yma o ddelweddau,” meddai’r Barnwr.