Fe fydd rhaid i berchnogion newydd cwmni Arriva gadw at amodau trwydded y cwmni i gynnal gwasanaethau trenau yng Nghymru, meddai’r Prif Weinidog.
Ac mae gwleidydd lleol wedi croesawu’r newyddion am fwriad cwmni Deutsche Bahn i brynu’r busnes, sy’n gyfrifol am y rhan fwya’ o wasanaethau trên Cymru a sawl gwasanaeth bws.
Mae Deutsche Bahn eisoes yn berchnogion ar gwmni sy’n cynnal gwasanaethau trên o Wrecsam ac, yn ôl y Cynghorydd Arfon Jones, mae eu safonau’n llawer uwch na safonau’r cwmni Prydeinig.
‘Clên a chysurus’
Fe ddywedodd Cynghorydd Plaid Cymru tros ardal Gwersyllt ei fod yn gobeithio y byddai’r perchnogion newydd yn gallu datblygu rhagor o wasanaethau, a’r rheiny o’r un safon â’r trên o Wrecsam trwy’r Amwythig i orsaf Marylebone yn Llundain.
“Dw i wedi trafaelio efo’r Wrexham, Shropshire and Marylebone Railway ac mae’r trenau yn lân ac yn gysurus,” meddai. “Pob peth nad ydi Arriva yn gallu ei gynnig.”
Roedd trenau Arriva o Lundain i’r Gogledd yn ei brofiad ef yn oer ac yn fudr, meddai, ac yn aml roedden nhw’n rhy llawn i gael lle i eistedd.
“Gobeithio y bydd Deutsche Bahn yn gwella’r gwasanaeth ac yn rhoi mwy o gerbydau ymlaen pan fydd angen,” meddai.
Cadw llygad
Yn y Cynulliad, roedd yr AC Ceidwadol tros ogledd Cymru, Mark Isherwood, wedi gofyn i Lywodraeth y Cynulliad gadw “llygad barcud” ar y posibilrwydd y byddai Deutsche Bahn yn prynu Arriva.
“Efallai y bydd oblygiadau i wasanaeth Arriva yng Nghymru ac i gwmni Wrexham, Shropshire and Marylebone Railway,” meddai.
Fe ddywedodd Carwyn Jones bod amodau ynghlwm wrth drwydded Arriva ac y byddai’n rhaid i unrhyw gwmni arall gadw at y rheiny.