Mae Nicolas Sarkozy, arlywydd Ffrainc, yn cynnal cyfarfod gyda swyddogion ei lywodraeth heddiw, er mwyn penderfynu beth yw’r ffordd orau i gynnig pecyn ariannol i godi gwlad Groeg o ddyled.

Mae’r Prif Weinidog, Francois Fillon, a gweinidogion tramor; pennaeth banc canolog Ffrainc a phennaeth materion Ewrop, yn cyfarfod Sarkozy yn y palace arlywyddol.

Mae Groeg yn gofyn am help ariannol sy’n werth 8.5biliwn ewros erbyn Mai 19.

Tra mae Ffrainc yn trafod faint o arian maen nhw’n fodlon ei roi, mae yna bryder y gallai’r Almaen dynnu’n ôl ar eu cynnig i dalu 45 biliwn ewro.