Mae miloedd o weithwyr undeb yn gorymdeithio tuag at Sgwar Taksim yn ninas Istanbul, ar gyfer y dathliadau cyntaf i gael eu cynnal yno ers trychineb Mai 1 dros 30 mlynedd yn ôl.

Mae’r heddlu wedi anfon miloedd o swyddogion yno i oruchwylio’r digwyddiad.

Be’ ddigwyddodd yn 1977

Mae llywodraeth Twrci wedi cytuno i geisiadau gan yr undebau i agor y Sgwar ar gyfer dathliadau am y tro cyntaf ers 1977, pan fu farw 36 o brotestwyr. Bryd hynny, roedd y dorf wedi rhuthro ar ôl i bobol glywed swn gynnau’n cael eu tanio.

Chafodd neb eu dal na’u rhoi ar brawf mewn cysylltiad â’r digwyddiad, ac roedd nifer yn amheus fod yna gysylltiad rhwng hynny â’r coup milwrol ddaeth wedyn yn 1980.

Hawl i gofio

Fe ganiataodd llywodraeth Twrci i nifer fechan o weithwyr gynnal gwasanaeth coffa ar y Sgwar y llynedd.

Roedden nhw newydd gyhoeddi y byddai Mai 1 yn wyliau cyhoeddus yn y wlad, a hynny ar ôl i’r undebau llafur roi tipyn o bwysau arnyn nhw.