Mae bom wedi ffrwydro a chreu difrod mawr mewn marchnad brysur ym mhrif ddinas Dyffryn Swat ym Mhacistan. Mae o leiaf ddau o bobol wedi cael eu lladd, yn ôl yr heddlu.

Yn ôl adroddiadau, fe ffrwydrodd y ddyfais yn ninas Mingora.

Roedd yr ardal yn un gefnogol iawn i’r Taliban hyd y llynedd, pan lwyddodd cyrch filwrol i ddod â’r ardal yn ôl dan reolaeth y llywodraeth.

Er hynny, mae ymosodiadau fel hyn yn parhau i ddigwydd.