Mae cyn chwaraewr rhyngwladol Cymru, Robbie Savage, wedi cael ei enwi’n chwaraewr y flwyddyn ei glwb Derby.

Fe gafodd y chwaraewr canol cae ei ddewis gan banel o newyddiadurwyr lleol, aelod o staff hyfforddi’r clwb, Johnny Metgod, a chadeirydd clwb cefnogwyr Derby, John Hemsworth.

“Mae’n anrhydedd mawr i gi gael fy enwi’n chwaraewr y flwyddyn,” meddai Savage, sy’n dod yn wreiddiol o Wrecsam ac sy’n enwog am ei chwarae brwdfrydig.

“Mae wedi bod yn dymor gwych i mi yn bersonol – dw i ddim wedi methu’r un gêm gynghrair ac rydw i wedi mwynhau fy mhêl-droed – dw i ddim eisiau i’r tymor orffen.”

Er hynny, fe fydd Robbie Savage a’i dîm yn dod â’r tymor i ben yn erbyn Caerdydd yn Pride Park ddydd Sul.