Mae capten Abertawe, Garry Monk, yn gobeithio dathlu ddwywaith dros y penwythnos, wrth i’r Elyrch wynebu Doncaster yn Stadiwm Liberty dydd Sul.
Bydd y capten yn arwain ei dîm allan ar gyfer gêm olaf y tymor arferol, gyda’r Elyrch yn gwybod bod rhaid ennill er mwyn unrhyw obaith o chwarae yn y gemau ail gyfle.
Fe fydd Monk hefyd yn ymddangos dros Abertawe am y 200fed tro, ers iddo arwyddo gyda’r clwb yn 2004 ar ôl gadael Barnsley.
“Rwy’n falch iawn i arwain y tîm yma allan, yn enwedig wrth ymddangos am y 200fed tro dros y clwb,” meddai Monk.
“Dw i wedi mwynhau pob munud o fy amser gyda’r clwb. Mae nifer fawr o gyn chwaraewyr y clwb wedi aros yn yr ardal, ac rydych chi’n gallu gweld pam.
“Mae’r gefnogaeth gan y cefnogwyr y tymor hwn wedi bod yn wych – ar y cae ac oddi ar y cae.
“Mae’n glwb arbennig sy’n tyfu’n flynyddol, ac fe fydd y clwb yn cryfhau eto,” ychwanegodd Monk.