Cafodd arweinydd y BNP, Nick Griffin ei ddrysu ar raglen radio heddiw ar ôl i alwr ofyn a oedd y Teulu Brenhinol yn Brydeinig ai peidio.

Roedd Nick Griffin wedi dweud wrth y gwrandäwr nad oedd yn Brydeiniwr brodorol oherwydd bod tri o’i deidiau a’i neiniau wedi eu geni dramor.

Gofynnodd galwr arall a oedd y Teulu Brenhinol yn Brydeinig felly o ystyried bod eu cyndadau wedi dod o’r Almaen yn y 18eg ganrif.

“Erm, wel mae hynny’n rhan o’r Teulu Brenhinol,” meddai Nick Griffin ar raglen Radio 4 The World at One. “Maen nhw’n gymysgedd reit hen o Ewropeaid, ond maen nhw wedi integreiddio’n gyfan gwbl.

“Unwaith yr ydech chi’n cyrraedd pwynt na allwch chi ddweud, pan mae cymuned gyfan yn ystyried bod rhywun yn Brydeiniwr brodorol, dyna pryd yr ydech chi’n frodorol.

“Dyna fel mae pethau yng nghoedwig yr Amazon, pam mae o’n wahanol fan hyn?”

Herio

Roedd y galwr cynt wedi herio Nick Griffin i benderfynu a oedd yn Brydeiniwr brodorol ai peidio heb ei weld o.

“Allwch chi ddweud wrtha’i a ydw i’n Brydeiniwr ai peidio, o ystyried bod tri o fy neiniau a theidiau wedi eu geni dramor?” gofynnodd Sean Fowlston o Nottingham.

“Yn amlwg dw i ddim yn gallu eich gweld chi lawr y radio,” atebodd Nick Griffin. “Fe fyddai’n gwneud gwahaniaeth, pe bai’n wyn, yna fe fyddwn i’n cymryd ei fod yn Wyddel, ac roedd gen i gyndadau sy’n Wyddelod hefyd.

“R’yn ni’n ystyried Iwerddon yn rhan o Brydain.”