Daeth trwch o eira a rhew i rannau o Gymru unwaith eto ddiwedd yr wythnos.
Fe fu tua 60 o ysgolion ynghau ddydd Gwener (Ionawr 10), y rhan fwyaf yng Ngwynedd, Sir Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a chwpl yng Ngheredigion.
A bu’n rhaid i Sw Mynydd Bae Colwyn gau am gwpl o ddyddiau oherwydd y tywydd rhewllyd.
Roedd y safle ar gau am gyfnod ddydd Iau (Ionawr 9) a dydd Gwener, oherwydd y tywydd garw ond mae bellach wedi ail-agor.
Dyma luniau o Ddyffryn Nantlle rhewllyd iawn gafodd eu tynnu gan yr awdur ac actor a cholofnydd Golwg a Lingo Newydd, Rhian Cadwaladr wythnos ddiwethaf. Cadwch yn gynnes!