Mae ffordd yr A484 yn ardal Cwmduad, Sir Gaerfyrddin, wedi ailagor yn llawn am y tro cyntaf ers i ddyn ifanc gael ei ladd mewn tirlithriad yno fis Hydref y llynedd.

Bu farw Corey Thomas Sharpling, 21, ar y ffordd rhwng Castellnewydd Emlyn a Chaerfyrddin adeg Storm Callum ar Hydref 13.

Ers hynny, mae swyddogion Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi bod yn cynnal gwaith “tra chymhleth” i glirio’r ardal a gwneud y ffordd yn ddiogel unwaith eto.

Cafodd y ffordd ei hailagor yn rhannol ym mis Mawrth, a bellach mae’r goleuadau dros dro, a oedd ond yn caniatáu un lôn o draffig, wedi cael eu symud.

“Rydym yn falch ein bod wedi gallu ailagor yr A484 yng Nghwmduad o’r diwedd,” meddai’r Cynghorydd Hazel Evans, aelod o Fwrdd Gweithredol Cyngor Sir Gaerfyrddin sy’n gyfrifol am yr Amgylchedd.

“Hoffwn ddiolch i’r tîm priffyrdd am reoli a chwblhau’r gwaith hynod gymhleth hwn, a hefyd i ddefnyddwyr y ffordd a phobol sy’n byw yn lleol am eu hamynedd a’u dealltwriaeth.”

Anrhydeddu gweithwyr

Yn ddiweddar, cafodd dau aelod o dîm priffyrdd y cyngor eu hanrhydeddu am eu dewrder ar ôl achub gyrrwr y lori a gafodd ei ysgubo i afon Duad adeg y storm.

Enillodd Dorian Lewis a Mark Allen y Wobr Dewrder Cymunedol yng Ngwobrau Cymunedol Gorllewin Cymru eleni.

Llwyddodd y ddau i dynnu’r gyrrwr allan o’i gerbyd a ffurfio cadwyn er mwyn ei gludo i ddiogelwch.

“Nid oeddem wedi gwneud hyn er mwyn ennill gwobr, ond yn hytrach er mwyn achub bywyd,” meddai Dorian Lewis. “Ond yn anffodus, gwnaethom fethu ag achub bywyd un person y diwrnod hwnnw.”