Mae’r Ysgrifennydd Iechyd Matt Hancock wedi camu o’r neilltu yn y ras i olynu Theresa May.
Boris Johnson yw’r ffefryn i ddod yn Brif Weinidog nesaf gwledydd Prydain, a’r lleill yn y ras yw Sajid Javid, Michael Gove, Jeremy Hunt, Dominic Raab a Rory Stewart.
Rhaid i’r chwech sydd ar ôl sicrhau 33 o bleidleisiau yn yr ail rownd ddydd Mawrth nesaf, er mwyn cael parhau yn y ras.
Boris dan bwysau
Er ei fod ymhell ar y blaen, mae Boris Johnson dan bwysau i gymryd rhan mewn dadl deledu gyda’i wrthwynebwyr.
Mae Boris Johnson yn ffan enfawr o Winston Churchill, ac roedd Jeremy Hunt yn cyfeirio at hynny wrth ofyn: “Beth fyddai Churchill yn ei ddweud petai rhywun sydd eisiau bod yn Brif Weinidog y Deyrnas Unedig yn cuddio rhag y Wasg a’r cyfryngau, ddim yn fodlon cymryd rhan yn yr achlysuron pwysfawr hyn?”