Mae Llywodraeth Cymru wedi addo defnyddio £1 miliwn i helpu sicrhau y bydd pobol sy’n gofalu am eraill yn gallu cael seibiant.

Ar Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr, fe gyhoeddodd yr Ysgrifennydd Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant, ei fod eisiau sicrhau bod gofalwyr di-dâl yn cael cydnabyddiaeth, cymorth a help “i fyw yn ogystal â gofalu”.

Fe fydd Huw Irranca-Davies hefyd yn sefydlu Grŵp Cynghori Gweinidog i fod yn fforwm i sicrhau gwelliannau yn amodau gofalwyr, i helpu’r sector cyfan i ymateb i broblemau ac i sicrhau cydweithio yn y maes.

“Ein gweledigaeth ar gyfer gofalwyr yng Nghymru yw fod cymunedau’n meithrin agwedd gyfeillgar at ofalwyr, yn adnabod gofalwyr a’u cefnogi i wneud yn siŵr nad ydyn nhw’n diodde’ o annhegwch neu anfantais o ganlyniad i’w gwaith gofalu,” meddai.

Hawliau gofalwyr

Mae’r camau’n ymateb i ddeddf a gafodd ei phasio y llynedd sy’n rhoi’r un hawl i ofalwyr gael asesiad anghenion ag sydd gan y bobol sy’n derbyn y gofal.

Yn ôl y Llywodraeth,  mae tua 370,000 o bobol Cymru yn gofalu am eraill – 12% o’r boblogaeth. Nhw hefyd sy’n gyfrifol am 96% o’r holl gofal sy’n cael ei roi, gan arbed biliynau o bunnoedd o wario cyhoeddus.

Dyma dair blaenoriaeth y Llywodraeth:

  • Help i fyw yn ogystal â gofalu – gan gynnwys seibiant cyson.
  • Cydnabyddiaeth – Mae hynny’n golygu eu bod yn cael statws a chydnabyddiaeth am eu gwaith.
  • Darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth.