Mae disgwyl i Theresa May addo eto y bydd y Deyrnas Unedig yn ymrwymo i ddiogelwch yn Ewrop ar ôl Brexit – hynny wrth iddi wynebu pwysau i ddweud sut mae’n bwriadu talu “bil ysgaru” Brexit y Deyrnas Unedig.
Fe fydd Prif Weinidog Prydain yn cynnal mwy o drafodaethau â Llywydd y Cyngor Ewropeaidd, Donald Tusk, heddiw yn sgil cynhadledd ym Mrwsel rhwng yr UE a gwledydd oedd yn arfer perthyn i’r Undeb Sofietaidd.
Rhybudd
Cafodd Theresa May rybudd yr wythnos ddiwethaf gan Donald Tusk, ei fod eisiau esboniadau cliriach ynglŷn â’r broses o adael yr Undeb erbyn dechrau Rhagfyr a hynny’n cynnwys taliadau ariannol gan wledydd Prydain.
Os na fydd hynny’n digwydd, yna mae’n debygol y bydd y trafodaethau ar gytundebau masnachol, sydd i fod i ddechrau ym mis Rhagfyr, yn cael eu gohirio.
Mae disgwyl i Theresa May deithio i Frwsel eto ar 4 Rhagfyr i gwrdd â Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Jean-Claude Juncker, mewn cyfarfod sy’n cael ei weld yn gyfle ola’ ar gyfer setlo’r bil ysgaru.