Hywel Wyn Edwards, trefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol, sy’n cyfri’r dyddiau tan y diwrnod mawr…
Gyda chan diwrnod i fynd tan y cyngerdd agoriadol, mae’r cyfnod prysuraf ar gyfer y trefnu wedi hen ddechrau. Un dyddiad cau’n unig sydd i fynd erbyn hyn, a gobeithio’n arw y bydd pawb yn anfon eu ffurflenni cais ar gyfer cystadlaethau llwyfan atom mewn da bryd – mae’n gwneud ein bywydau ni’n llawer haws. Hefyd, wrth i bethau agosau, mae mwy a mwy o deithio ar hyd a lled Cymru, gyda chyfarfodydd o bob lliw a llun yn cael eu cynnal ym mhob rhan o’r dalgylch a thu hwnt.
Cawsom noson lwyddiannus yn trafod cyfleoedd ar gyfer pobl busnes yn ardal Blaenau Gwent, gyda thua 30 o bobl yn cynrychioli busnesau lleol ar draws y sir. Mae’n bwysig siarad gyda phobl busnes, nid yn unig er mwyn iddyn nhw gael syniad o’r cyfleoedd i apelio at y 160,000 o ymwelwyr ychwaegol a fydd yn ymweld â’r ardal ddechrau Awst – ond hefyd iddyn nhw wybod beth i’w ddisgwyl. Felly, roedd yn ddefnyddiol iawn cael rhannu gwybodaeth a sgwrsio am beth sydd ar eu meddyliau nhw wrth i Gymru baratoi i gyrraedd Blaenau Gwent!
Dyma oedd y cyfle cyntaf i ni gyflwyno fflagiau newydd yr Eisteddfod , neu’r bynting sydd i’w weld yn ardal unrhyw ŵyl er mwyn creu bwrlwm a chroeso. Mae’r ymgyrch ‘ffoli ar fflagiau’ yn cychwyn yr wythnos hon – i ddathlu 100 diwrnod – a’r bwriad yw annog busnesau a thrigolion lleol i roi’r fflagiau i fyny’n eu gerddi, mewn ffenestri, ar eu strydoedd – lle bynnag y maen nhw am ddangos bod ‘na groeso i bawb yn yr ardal. Ac mi oedd ‘na ddiddordeb mawr yn y fflagiau – a’r Eisteddfod ei hun – felly gobeithio y byddwn yn gweld y fflagiau pinc yn dechrau ymddangos yn lleol dros y dyddiau nesaf.
Stondin ym marchnad Abertyleri oedd ein cartref ddydd Iau, ac yna stondin yng Nglyn Ebwy ddydd Gwener. Dwy farchnad brysur mewn ardaloedd gwahanol – ond tebyg iawn oedd y croeso – a phawb yn frwdfrydig am yr Eisteddfod, ac yn gwybod ein bod yn ymweld ym mis Awst. Unwaith eto, roedd y cynllun mynediad am ddim yn boblogaidd iawn, a’n gobaith mawr ni yw bod pobl leol yn cael blas ar yr Eisteddfod ar y dydd Sul ac yna’n dychwelyd i’n gweld yn nes ymlaen yn yr wythnos. Bydd gennym stondinau yn y marchnadoedd eto dros yr wythnosau nesaf, ac mae dyddiau fel hyn yn ffordd dda o ddal i fyny gyda phobl leol a sôn ychydig mwy am beth i’w ddisgwyl yn yr Eisteddfod.
Cyfarfodydd sydd o’n blaenau unwaith eto yr wythnos hon – a rhai ohonyn nhw’n rhai cymunedol. Clwb nos Fawrth Merched Beaufort sydd wedi rhoi gwahoddiad i ni nos Fawrth (yn naturiol) ac yna ddydd Mercher, cyfarfod blynyddol Sefydliad y Merched yn ardal Gwent. Mae gennym berthynas dda gyda Sefydliad y Merched ers blynyddoedd, a nhw sy’n noddi cystadleuaeth y stondin orau ar y Maes. Eleni, maen nhw wedi cytuno i noddi cystadleuaeth ar gyfer busnesau lleol hefyd, er mwyn darganfod y busnes sydd wedi mynd ati fwyaf i addurno’u ffenestri i groesawu’r Eisteddfod. O gofio’r croeso a gafodd y posteri a’r fflagiau yr wythnos ddiwethaf, mae’n debygol y bydd eithaf tipyn o gystadlu am y tlws newydd yma!
Yna, nos Fercher, Pwyllgor Gwaith ardal Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd,a chyfle i ddal i fyny gyda phopeth sy’n digwydd yn lleol, rhannu gwybodaeth a chynllunio am yr wythnosau nesaf – a’r tro hwn, cyfle i dynnu llun. Mae un o’r prosiectau mwyaf ar fin cychwyn, sef cynhyrchu’r Rhaglen Swyddogol – y llawlyfr ar gyfer unrhyw Eisteddfodwr, sy’n lawer o waith, ond yn rhoi boddhad mawr i ni fel tîm – ac i’r darllenwyr hefyd, gobeithio, ac mae angen llun o’r Pwyllgor Gwaith. Unwaith y bydd y ffurflenni cais ar gyfer y cystadlaethau llwyfan wedi cyrraedd, gallwn fynd ati i greu’r rhaglen lwyfan a bwydo popeth i mewn i’r cyfrifiadur er mwyn cychwyn ar y Rhaglen.
Ond stori arall yw honno, ac mae ychydig o wythnosau i fynd cyn i’r prysurdeb yna ddechrau go iawn. Yn y cyfamser, nol a ni ar yr A470 am gymysgedd arall o dde a gogledd, cyfarfodydd a chyflwyniadau – gan obeithio y cawn baned neu ddwy ar y ffordd mewn ambell le.