Dyrnu ar eu prif negeseuon yr oedd arweinwyr y pleidiau Cymreig yn eu dadl deledu ddiweddara’.

• Pleidlais i Lafur oedd yr unig ffordd i warchod Cymru rhag “trychineb” llywodraeth Geidwadol, meddai Ysgrifennydd Cymru, Peter Hain, gan apelio am bleidlais dactegol mewn seddi allweddol.

• Pleidlais i’r Ceidwadwyr yw’r unig ffordd i gael newid go iawn, meddai llefarydd y Ceidwadwyr, Cheryl Gillan, gan feirniadu Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol am weithio gyda Llafur yn Llywodraeth Cymru.

• Roedd Ieuan Wyn Jones ar ran Plaid Cymru unwaith eto’n pwysleisio’r cyfle i ddylanwadu mewn senedd grog a chael gwell bargen ariannol i Gymru ac i bensiynwyr. Fe ddefnyddiodd slogan yr SNP yn yr Alban am “bencampwyr lleol”.

• Pwysleisio cynlluniau’r Democratiaid Rhyddfrydol i dorri treth incwm ar gyfer y £10,000 yr oedd eu harweinydd Cymreig, Kirsty Williams. Roedd y ddwy blaid fawr yn ofni bod grym yn llithro o’u gafael, meddai.

Y dyfyniadau

“Mae pawb yn cytuno bod yr etholiad yma bellach yn benagored a’r unig ffordd i arbed Cymru rhag trychineb llywodraeth Dorïaidd yw i’r mwyafrif deche bleidleisio tros Lafur yn y seddi ymylol lle bydd yn cael ei benderfynu.” – Peter Hain, Llafur.

“Un gair sy’n llywodraethu yn yr etholiad yma – newid. Ond y Ceidwadwyr yw’r unig blaid sydd o ddifri’n cynrychioli newid ac sydd heb fod yn rhan o lywodraeth yn y deng mlynedd diwetha’ a heb fod yn rhan o’r llanast yr ydyn ni ynddo.” – Cheryl Gillan, Ceidwadwyr.

“Efallai ei bod yn hen ffasiwn dweud hyn, ond yr hyn yr yden ni’n ei gynnig ydi tîm o bencampwyr lleol, ASau a fydd wastad yn rhoi anghenion eich cymuned yn gynta’,” Ieuan Wyn Jones, Plaid Cymru.

“Does dim rhaid i ni dderbyn rhagor o dorri addewidion, Fe allwn ni wneud yn well. Mae syniad y Ceidwadwyr o dorri’n awr yn peryglu gallu’r economi i adfywio.” – Kirsty Williams, Democratiaid Rhyddfrydol.

Llun: Peter Hain – apelio am bleidleisio tactegol