Mae cyrff iaith ac addysg wedi rhybuddio bod rhaid cael digon o arian i weithredu Strategaeth Addysg Gymraeg newydd y Llywodraeth.

Os bydd hi’n cael ei gweithredu’n llwyddiannus, fe fydd hi’n creu rhagor o weithwyr dwyieithog a phobol sy’n hyderus yn y ddwy iaith, meddai Prif Weithredwr Bwrdd yr Iaith, Meirion Prys Jones.

Ond roedd yn mynnu y byddai’n rhaid i awdurdodau lleol a cholegau gael digon o adnoddau i’w rhoi ar waith.

Yn ôl y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, ychydig tros £1.7 miliwn y flwyddyn sydd ar gael yn ychwanegol i weithredu’r strategaeth.

Y Strategaeth

Mae’r Strategaeth derfynol, a gafodd ei chyhoeddi ddoe yn y Cynulliad, yn rhoi cyfeiriad ar gyfer addysg Gymraeg a chyfrwng Cymraeg ar bob lefel trwy Gymru.

Mae’n cynnwys yr angen ymateb i’r galw gan rieni am leoedd mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg ac yn annog awdurdodau lleol i gydweithio’n agos i gynnig addysg Gymraeg.

Mae hefyd eisiau cynyddu’r cyfleodd am addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog i ddisgyblion a myfyrwyr tros 14 oed, yn enwedig yn y sector Addysg Bellach ac o fewn y cynllun Dysgu’n Seiliedig ar Waith.

‘Hanfodol’

“Mae’n hanfodol bod y system addysg yng Nghymru yn darparu cyfleoedd dysgu i ddysgwyr cyfrwng Cymraeg trwy bob cyfnod, gydag amrywiaeth eang o gyrsiau o safon uchel,” meddai Leighton Andrews.

Roedd hefyd yn awgrymu bod angen codi’r safonau ar gyfer plant di-Gymraeg sy’n derbyn gwersi ail-iaith – mae’r rheiny’n orfodol hyd at 16 oed ond mae llawer o gwyno nad ydyn nhw’n rhoi digon o sgiliau i’r plant.

“Mae gan y rhai sy’n dysgu Cymraeg fel ail iaith yr hawl i ddisgwyl y bydd modd iddynt siarad a defnyddio’r iaith yn effeithiol wedi ei hastudio am 11 mlynedd,” meddai Leighton Andrews.

Colegau’n croesawu

Mae’r corff sy’n cynrychioli colegau addysg bellach wedi croesawu’r Strategaeth. Ond roedd Prif Weithredwr ColegauCymru, John Graystone, hefyd yn rhybuddio bod angen arian ychwanegol ar adeg o gyni.

“Fe fydd y Strategaeth yn gofyn am benderfyniadau anodd, am newid cyfeiriad a buddsoddi newydd,” meddai.

Llun: Leighton Andrews – fe gyhoeddodd y Strategaeth yn Gymraeg yn y Cynulliad