Mae angen targedu tafarndai a chlybiau yng Nghaerdydd a chanol dinasoedd eraill Cymru sy’n hybu yfed anghyfrifol, meddai Prif Weinidog Cymru.
Dywedodd Carwyn Jones nad oedd rhai siopau trwyddedig, clybiau a thafarndai oedd yn gwerthu alcohol yn cymryd eu cyfrifoldeb i’w cwsmeriaid o ddifrif.
Roedd yn ymateb i bryderon ynglŷn ag adroddiadau yn y wasg oedd yn tynnu sylw at broblemau yfed ynghanol Caerdydd, wrth ateb cwestiynau yn y Senedd.
“Yn anffodus mae ein prifddinas wedi ei gynnwys mewn nifer o adroddiadau dros yr wythnos diwethaf ac mae alcohol rhad yn siŵr o fod yn rhan o’r broblem,” meddai Chris Franks, AC Plaid Cymru dros Ganol De Cymru.
“Beth yw eich ymateb i’r adroddiadau yn y BBC a’r Wall Street Journal, bod y sefyllfa yng Nghaerdydd wedi dirywio cymaint?
“Mae’r cyhoeddusrwydd drwg yn siwr o gael effaith ar enw da Caerdydd ledled y byd.”
Dywedodd Carwyn Jones fod yna broblem “diwylliannol” ledled Prydain ac mewn gwledydd eraill hefyd.
“Mae gan wledydd Llychlyn yr un broblem – mae’n dderbynion crwydro’r strydoedd yn feddw dydd a nos.
“Mae angen bob yn ofalus ynglŷn â sut ydan ni’n targedu camddefnydd alcohol. Er enghraifft, dyw tafarndai pentrefol ddim fel arfer yn hybu ymddygiad gwrthgymdeithasol.
“Mae angen targedu siopau trwyddedig a busnesau ynghanol dinasoedd sy’n gallu hybu ymddygiad gwrthgymdeithasol a chamddefnydd alcohol.
“Dyna’r llefydd ydan ni angen eu targedu, yn gyntaf er mwyn herio’r diwylliant gôr yfed ond hefyd er mwyn sicrhau bod y bobol sy’n berchen ar y siopau trwyddedig a busnesau ynghanol y ddinas yn ymwybodol o’u cyfrifoldeb i’w cwsmeriaid hefyd.”