Mae grŵp o gadfridogion wedi ysgrifennu at bapur newydd y Times heddiw yn cefnogi galwad Nick Clegg am drafodaeth am ddyfodol llongau tanfor niwclear Trident.
Dywedodd y cadfridogion y byddai’r llywodraeth nesaf yn peryglu trafodaethau byd-eang i leihau nifer yr arfau niwclear pe bai’n gwario £80 biliwn ar lynges newydd o’r llongau tanfor.
Mae’r Llafur a’r Ceidwadwyr yn cefnogi Trident, a bydd y llythyr yn hwb i arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Nick Clegg cyn ail ddadl arweinwyr y prif bleidiau, ar bwnc polisi tramor, nos yfory.
Wrth ysgrifennu ym mhapur newydd y Times, mae pedwar cadfridog yn mynegi eu “pryder dwfn” ynglŷn â’r ffaith na fydd Trident yn rhan o adolygiad ar ôl yr etholiad i sut mae arian yn cael ei wario ar amddiffyn Prydain.
Maen nhw’n rhybuddio y byddai peidio â thrafod Trident neu wfftio unrhyw arfau newydd allai ddod yn ei le yn “gamgymeriad strategol mawr”.
Ers 2007, pan benderfynodd y Llywodraeth barhau gyda Trident o 2025 tan 2050, mae’r ddadl wedi newid yn sylweddol.
Mae yna “consensws sy’n tyfu bod angen torri’n ol ar arfau niwclear er budd diogelwch rhyngwladol”.
Fe fyddai’n bosib gwario’r arian ar filwyr yn y fyddin, gwaith gwrth-derfysgol, hofrenyddion, cerbydau arfog. ffrigadau ac arfau eraill.
Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol o blaid oedi dyddiad ymddeoliad arfau niwclear Trident wrth ymchwilio i weld a oes dewis amgen sy’n costio llai.