Mae unben olaf yr Ariannin wedi ei ddedfrydu i 25 mlynedd yn y carchar am ei ran yn yr arteithio a herwgipiadau yn ystod cyfnod llywodraeth filwrol 1976-1983.

Cafwyd Reynaldo Bignone, 82 oed, yn ogystal â phump o gyn swyddogion milwrol, yn euog o 56 cyhuddiad gan gynnwys arteithio a chadw pobol dan glo yn anghyfreithlon yng nghanolfan milwrol Campo de Mayo.

Yn ôl grwpiau hawliau dynol y wlad roedd tua 4,000 o bobol nad oedd yn cytuno gyda’r llywodraeth wedi eu cymryd i’r ganolfan filwrol a dim ond tua 50 ddaeth allan yn fyw.

Roedd gan y ganolfan ward mamolaeth gudd ble’r oedd y carcharorion yn rhoi genedigaeth, cyn i’r swyddogion gymryd y babanod newydd anedig i’w mabwysiadu gan deuluoedd milwrol.

Reynaldo Bignone oedd Arlywydd yr Ariannin rhwng 1982 a 1983 ond cafodd ei ddedfrydu am droseddau a ddigwyddodd rhwng 1976 a 1978 pan oedd o’n gadlywydd ar ganolfan Campo Mayo.

Darllenwyd y rheithfarn gan y barnwr Marta Milloc mewn stadiwm dan do bychan, o flaen tyrfa o deuluoedd y dioddefwyr. Doedd Reynaldo Bignone ddim yno.

“Mae heddiw yn ddiwrnod da i’r Ariannin,” meddai Estela de Carlotto, llywydd grŵp hawliau dynol Asociación Civil Abuelas de Plaza de Mayo. “R’yn ni’n cytuno gyda’r penderfyniad, ond mae yna waith i’w wneud o hyd. Mae yna gannoedd ar ôl wedi eu cyhuddo.”

(Llun: Reynaldo Bignone o flaen y llys)