Mae’r rheini honnodd bod eu bachgen chwech oed wedi ei ddal ar falŵn heliwm oedd yn hedfan dros dalaith Colorado wedi cytuno i dalu dirwy.

Bydd rhai i rieni’r bachgen Falcon Heene, Richard a Mayumi Heene, dalu $36,000 i’r awdurdodau wnaeth ymateb i’r alwad.

Roedd swyddfa siryf Sir Larimer ac asiantaethau eraill wedi gofyn am $48,000 ar ôl ras dwy awr a 50 milltir ar 15 Hydref i geisio achub y bachgen.

Roedd y rheini wedi honni bod eu mab wedi hedfan i ffwrdd mewn balŵn heliwm, ac roedd y gwasanaethau brys a dau hofrennydd gan Warchodlu Colorado wedi ceisio ei achub.

Ond doedd y plentyn ddim ar y balŵn a daethpwyd o hyd iddo yn ddiweddarach yn ei gartref yn Fort Collins, tua 60 milltir i’r gogledd o Denver.

Cyhuddodd yr awdurdodau rheini Falcon Heene o’u twyllo nhw er mwyn creu sylw i’w hunain ar y teledu, ac maen nhw wedi pledio’n euog.

Roedd twrnai’r rheini wedi dadlau na ddylai nhw orfod talu gymaint o iawndal a bod y gwasanaethau brys yn ceisio gwneud arian o beth ddigwyddodd.

Yn ogystal â gorfod talu dirwy cafodd Richard Heene ei ddedfrydu i 90 diwrnod yn y carchar, a chafodd Mayumi Heene ei dedfrydu i 20 diwrnod yn y carchar.